Nigel Farage
Bydd Ukip yn parhau gyda’i hymgyrch heddiw i ennill ail sedd yn San Steffan yn dilyn llwyddiant Douglas Carswell yn isetholiad Clacton yn Essex ddoe.

Fe fydd arweinydd y blaid, Nigel Farage, ac Aelod Seneddol cyntaf UKIP yn teithio i Rochester a Strood yng Nghaint heddiw i ymgyrchu ar ran Mark Reckless, cyn aelod arall o’r Blaid Geidwadol sydd wedi ymuno a UKIP.

Ddoe, fe enillodd Douglas Carswell y sedd yn Clacton gyda mwyafrif o 12,404 dros yr ymgeisydd Ceidwadol, Giles Watling, gan ennill bron i 60% o’r bleidlais.

Roedd Carswell wedi achosi isetholiad yn Clacton trwy adael y Ceidwadwyr a sefyll dan faner UKIP.

Ac yn etholaeth Heywood a Middleton yn Sir Gaerhirfryn bu bron i UKIP gipio’r sedd oddi ar y Blaid Lafur.

Ond daeth Liz McInnes i’r brig gyda 11,633 o bleidleisiau, a John Bickley o UKIP yn ail agos gyda 11,016 o bleidleisiau.