Awyren Tornado
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi bod awyrennau Prydain wedi ail-ddechrau ymosodiadau o’r awyr ar dargedau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Irac, gan fomio adeilad sy’n cael ei ddefnyddio gan yr eithafwyr.
Dywedodd llefarydd bod dwy awyren Tornado yr Awyrlu wedi targedu lluoedd IS a oedd yn tanio gynnau tuag at filwyr Irac o adeilad ger Ramadi.
Mae Prydain wedi ymuno a’r cyrchoedd awyr rhyngwladol yn Irac ers i wleidyddion bleidleisio o blaid y cynnig ar 26 Medi.
Ar 1 Hydref, roedd dwy awyren tornado’r Awyrlu wedi targedu tryc a cherbyd arall i’r gorllewin o ddinas Baghdad.