Mae pobl yng ngweddill Prydain yn credu’n gryf y dylai’r Alban gadw’i hiaith a’i thafodiaith unigryw – er nad ydyn nhw’n deall llawer o’u geiriau!
Wrth i’r Albanwyr baratoi i bleidleisio yn y refferendwm am annibyniaeth fory, mae asiantaeth gyfieithu Conversis wedi cyhoeddi arolwg o bron i fil o Brydeinwyr o’r tu allan i’r Alban.
Dangosodd yr arolwg fod 96% o Brydeinwyr yn credu’i bod hi’n ‘bwysig’ neu’n ‘bwysig iawn’ i wlad gadw’i hiaith a’i thafodiaith unigryw, ac roedd hynny’n wir i bob oedran.
Fodd bynnag, roedd dros chwarter ohonyn nhw ddim yn credu y dylai plant yn yr Alban orfod dysgu Scots neu Gaeleg Albanaidd yn yr ysgol, ac 11% yn credu y dylen nhw wneud dim ond os ydyn nhw’n wlad annibynnol.
Dangosodd yr arolwg fod dros hanner ddim yn gwybod beth oedd ystyr geiriau fel ‘bairnskip’ (plentyndod), ‘uggit’ (aflonyddu) a ‘gaed’ (y ffurf orffennol am ‘mynd’).
Ond roedd pobl yn fwy cyfarwydd â geiriau eraill, gyda mwyafrif clir yn deall ystyr ‘bonnie wee lass’ (merch ifanc ddel) a ‘burn’ (nant).
Acen Albanaidd Sean Connery oedd y mwyaf poblogaidd, gyda 23% o ymatebion yr arolwg yn dweud mai honno oedd eu ffefryn.
Roedd Billy Connolly’n ail gyda 15%, David Tennant yn drydydd â 12% – ac Andy Murray druan ar 1% yn unig.
“Gan fod llawer o bolau piniwn yn edrych ar sut fydd yr Alban yn pleidleisio ar 18 Medi, roedden ni’n meddwl y byddai’n ddiddorol gweld beth mae pobl sydd ddim yn byw yn yr Alban yn ei feddwl o iaith yr Alban,” meddai Gary Muddyman, prif weithredwr Conversis.
“Mae Scots a Gaeleg Albanaidd yn ieithoedd pwysig sydd wedi cael eu siarad yn yr Alban ers canrifoedd, ac mae modd eu canfod ar draws y wlad mewn gwahanol rannau heddiw.”