Morrisons
Mae elw Morrisons wedi gostwng 51% ar ôl i werthiant y cwmni archfarchnad ddioddef yn sgil cystadleuaeth i ostwng prisiau o fewn y diwydiant.
Roedd gwerthiant wedi gostwng 7.4% yn ystod y chwe mis cyntaf hyd at 3 Awst tra bod elw’r cwmni wedi gostwng 51% i £181 miliwn wrth i Morrisons geisio gostwng eu prisiau.
Dros y chwe mis diwethaf mae Morrisons wedi dechrau ar gynllun tair blynedd i wyrdroi’r cwmni a fydd yn golygu “newidiadau mawr a moderneiddio” ond dywedodd ei fod yn rhy gynnar i weld effaith hynny ar werthiant ar hyn o bryd.
Dywedodd cadeirydd Morrisons Syr Ian Gibson bod “amodau yn heriol”.