Douglas Carswell (llun Wikipedia Steve Punter CCA 2.0)
Mae arolwg barn yn awgrymu y bydd yr AS Torïaidd sydd wedi troi at Ukip yn cadw ei sedd gyda mwyafrif anferthol yn yr is-etholiad sydd i ddod.

Cyhoeddodd Douglas Carswell, AS Clacton, ddydd Iau ei fod yn ymuno ag Ukip ac yn bwriadu ceisio adennill ei sedd mewn is-etholiad.

Yn ôl yr arolwg yn y Mail on Sunday, roedd 64% o’r rhai a holwyd yn bwriadu pleidleisio i Ukip, o gymharu â 20% i’r Torïaid, 13% i Lafur a 2% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd 54% hefyd o blaid gweld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd yr arolwg o 700 o bleidleiswyr – sy’n llai na’r samplau a ddefnyddir ar gyfer arolygon yn arferol – ei gynnal o fewn oriau i gyhoeddiad Douglas Carswell.