Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud nad oes lle i bobol sy’n taflu pethau at wleidyddion o fewn y broses ddemocrataidd.

Fe gafodd y gwleidydd Llafur, Jim Murphy, ei beltio efo wyau gan gefnogwr yr ymgyrch ‘Ie’ yn yr Alban ddoe.

Fe wnaeth Mr Cameron ei sylwadau wrth ymweld a gweithdy peirianneg yn Loanhead, Midlothian.

“Dw i’n meddwl mai cyfrifoldeb y sawl sy’n gwneud y pethau yma ydi delio efo’r canlyniadau,” medadi.

“Dydi hi ddim yn iawn i daflu wyau at neb – ges i wy wedi’i daflu ata’ i unwaith yng Nghernyw.

“Mae’r ddadl cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban yn un fywiog, gyda llawer iawn o ffraeo, a does dim byd o’i le ar ychydig o heclo… ond mae taflu pethau yn ddiangen, a dydi o ddim yn rhan o’r broses ddemocrataidd.”