Alex Salmond
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi apelio ar i bobol y wlad “gipio’r cyfle gorau a gan’ nhw fyth” a phleidleisio tros annibynniaeth yn y refferendwm union bedair wythnos i heddiw.

Dyna fyddai’r tro cynta’ i bobol yr Alban gael rheoli eu tynged eu hunain ac fe alwodd arnyn nhw i beidio ag ildio’r rheolaeth yna ar ôl i’r bythau gau.

Roedd Alex Salmond yn siarad yng nghyfarod ola’ Senedd yr Alban cyn y refferendwm ac fe seiliodd ei apêl ar gyfoeth yr Alban a’i gred y gallai fod yn well gwlad pe bai’n annibynnol.

“Os gwnawn ni gymryd y grymoedd sydd eu hangen arnom a’u defnyddio’n dda a gweithio’n galed, gydag amser byddwn yn creu gwlad fwy llewyrchus a chymdeithas decach,” meddai.

‘Ddim yr un peth’

Ar y llaw arall, roedd arweinwyr Llafur a’r Ceidwadwyr yn Holyrood yn pwysleisio cyfraniad y Deyrnas Unedig a’r cryfder o aros ynghyd.

Ond fyddai gwleidyddiaeth yr Alban ddim yr un fath eto, beth bynnag y penderfyniad, meddai Johann Lamont, yr arweinydd Llafur.

Fe alwodd ar y naill ochr a’r llall i dderbyn penderfyniad y bobol ar 18 Medi.