Mae pris petrol ar ei isa’ ers tair blynedd, yn ôl cwmni moduro’r AA.
Ac mae’r cwymp yn 8c y litr yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, medden nhw – ar betrol cyffredin a disel.
Mae’r cwmni’n dweud mai brwydr brisiau rhwng archfarchnadoedd sy’n gyfrifol am y cwymp diweddara’, gyda phris petrol ar gyfartaledd bellach tua 129c y litr a disel yn 133.5c.
Fe fyddai gyrrwr cyffredin gyda thanc sy’n dal 55 litr yn arbed £4.40 wrth lenwi, meddai Pennaeth Materion Cyhoeddus yr AA, Paul Watters.
Ond fe ddywedodd fod gwledydd Prydain yn dal ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill yn Ewrop: “Mae gyrwyr ar y Cyfandir wedi bod yn mwynhau’r prisiau is yma ynghynt.”