David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud bod “cynlluniau manwl ar droed” ar gyfer ymgyrch rhyngwladol i achub pobl o’r gymuned Yazidi yn Irac ac y bydd Prydain “yn chwarae rôl yn yr ymgyrch.”
Daeth sylwadau’r Prif Weinidog ar ôl iddo ddychwelyd yn gynnar o’i wyliau i gadeirio cyfarfod o’r pwyllgor brys Cobra i drafod yr argyfwng yn y wlad.
Ond mae’n mynnu mai cymorth dyngarol yn unig y bydd y DU yn ei ddarparu er ei fod yn wynebu galwadau i arfogi’r lluoedd Cwrdaidd yn uniongyrchol ac ymuno a’r Unol Daleithiau mewn ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd ymladdwyr IS.
Mae hefyd wedi diystyru galw’r Senedd yn ôl gan ddweud bod hynny’n ddianghenraid ar hyn o bryd ond byddai’n parhau i adolygu’r sefyllfa.