Byddai'r Alban ar ei hennill, meddai'r SNP (Llun: PA)
Gallai hyd at 150,000 weld eu cyflog yn codi mewn Alban annibynnol, yn ôl yr SNP, wrth iddyn nhw ystyried cynlluniau i godi’r isafswm cyflog.
Yn ôl stori ym mhapur newydd y Scotsman heddiw, mae’r blaid sydd yn rhedeg Llywodraeth yr Alban yn dweud y byddan nhw’n sefydlu comisiwn mewn Alban annibynnol fyddai’n ystyried isafswm cyflog fyddai’n codi o leiaf yr un mor gyflym â chwyddiant.
Ond mae Llafur wedi cwestiynu’r cynllun, gan ddweud fod gan yr SNP bwerau eisoes i godi isafswm cyflogau rhai gweithwyr ond nad ydyn nhw wedi gwneud hynny.
Mae’n ategu addewid yr SNP i wario £114miliwn ar ofal plant mewn Alban annibynnol – rhywbeth y gallwn nhw wneud hyd yn oed heb bleidlais Ie ym mis Medi yn ôl eu gwrthwynebwyr.
“£675 yn gyfoethocach”
Yn ôl ymchwil yr SNP fe fydd 150,000 o Albanwyr, tua 7% o’r gweithlu, yn ennill yr isafswm cyflog o £6.50 erbyn i’r lefel godi ym mis Hydref.
Ond yn ôl y blaid dyw’r isafswm cyflog ddim wedi parhau i godi yn yr un modd ag y mae costau byw wedi’i wneud ers 2008, ac mae hynny wedi cyfrannu at fwy yn byw mewn tlodi.
“Mae’r Alban yn un o wledydd cyfoethocaf y byd – ac eto mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod y nifer o bobl sydd yn byw mewn tlodi yn cynyddu,” meddai Aelod Seneddol yr Alban yr SNP, Christine McKelvie.
“Rydym ni’n gwybod fod cyswllt rhwng tlodi a chyflog – a dyna pam y buasem ni’n defnyddio pwerau annibyniaeth i warantu Isafswm Cyflog Albanaidd.
“Isafswm cyflog fyddai’n codi – o leiaf – cymaint â chwyddiant.”
Fe aeth ymlaen i ddweud fod Llywodraeth yr Alban eisoes yn cymryd camau i godi cyflogau rhai gweithwyr yn y sector gyhoeddus, ond y byddai’r cam hwn ar ôl annibyniaeth yn eu galluogi i wella cyflogau “ein gweithwyr i gyd”.
Petai newid o’r fath wedi cael ei gyflwyno bum mlynedd yn ôl gan Lywodraeth Prydain, meddai’r SNP, fe fyddai Albanwyr ar gyflogau isel wedi bod £675 y flwyddyn yn gyfoethocach.
Llafur yn beirniadu
Mae llefarydd y Blaid Lafur Albanaidd dros arian, cyflogaeth a thwf cynaliadwy, Iain Gray, wedi wfftio’r cynlluniau gan eu disgrifio fel “jam yfory” a dweud nad yw’r SNP “o ddifrif” am godi cyflogau isel.
“Petai’r SNP o ddifrif am helpu’r rheiny ar gyflogau isel fe fyddwn nhw wedi cefnogi gwelliant Llafur ar y cyflog byw,” meddai.
Roedd yn cyfeirio at bleidlais yn Senedd yr Alban pan geisiodd Llafur gyflwyno gwelliant fyddai wedi ei gwneud hi’n amodol ar gwmnïau oedd eisiau sicrhau cytundebau sector gyhoeddus i dalu’r ‘cyflog byw’ o £7.65 yr awr i’w gweithwyr.
Ni chefnogodd yr SNP y gwelliant gan ddweud y byddai amod o’r fath yn torri cyfraith Ewropeaidd, ond mynnu eu bod yn ceisio dod i’r afael â’r cyflog byw yn y modd cryfaf posib.