Fe fu lleidr a aeth â bws o’r depo heb ganiatad, yn gyrru rownd a rownd dinas Wakefield neithiwr, nes i’r heddlu ei orfodi i stop trwy fyrstio teiars y cerbyd.

Pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw gan berchnogion y bws unllawr, fe gafodd offer arbenigol ei ddefnyddio i anelu at y teiars, wrth iddo deithio tuag at ganol Wakefield, Gogledd Swydd Efrog.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ond fe gafodd rhai ceir oedd wedi eu parcio ar fin y ffordd eu difrodi wrth i’r bws ddod i stop.

Fe gafodd gyrrwr y bws ei arestio.