Bydd gweithwyr y Swyddfa Basbort yn mynd ar streic heddiw dros ddiffygion staffio y maen nhw’n honni sydd wedi arwain at oedi mawr wrth geisio delio â cheisiadau eleni.

Roedd rhaid galw staff ychwanegol draw i geisio delio â’r 30,000 o geisiadau wrth gefn, a fis diwethaf fe ymddiheurodd y Gweinidog Cartref Theresa May i’r rheiny oedd wedi’u heffeithio gan yr oedi.

Dywedodd y Swyddfa Basbort eu bod nhw wedi cael y nifer fwyaf o geisiadau ers 12 mlynedd, gan ddweud nad oedden nhw wedi rhagweld cymaint ohonyn nhw’r haf hwn.

Mae streic heddiw gan aelodau undeb y PSC yn ymgais i dynnu sylw tuag at brinder staff sydd yn mynd yn ôl i 2010 yn ogystal ag anghysondebau tâl, yn ôl yr undeb.

Trafferthion

Dywed yr undeb fod y trafferthion cyhoeddus diweddar gyda delio â cheisiadau pasbort wedi gorfodi’r swyddfa i gymryd y peth o ddifrif, gan gyfeirio at ffigyrau oedd yn dangos fod 300 yn llai o staff yn gweithio yno bellach nag yr oedd bedair blynedd yn ôl.

Ond mae’r Weinidogaeth Gartref wedi beirniadu amseru’r streic, oherwydd bod y Swyddfa Basbort yn parhau i drafod gyda’r undeb, gan ddweud y gallai effeithio ar wyliau haf pobl.

“Mae cynnal streic nawr yn anghyfrifol ac fe fydd ond yn anghyfleus i’n cwsmeriaid a bygwth eu gwyliau,” meddai llefarydd o’r Weinidogaeth.

Dywedodd y llefarydd y byddai cownteri gwasanaethu cwsmeriaid yn parhau ar agor heddiw.