Mae’r Deyrnas Unedig, yn swyddogol, wedi dod allan o’r dirwasgiad gwaetha’ ers yr Ail Ryfel Byd wedi i’r economi godi 0.8% yn y chwarter diwetha’.

Mae GDP y Deyrnas Unedig bellach 0.2% yn well nag oedd o pan ddechreuodd y dirwasgiad yn 2008, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’n nodi diwedd cyfnod pan wnaeth y GDP ostwng 7.2% yn is nag oedd o cyn y dirwasgiad erbyn canol 2009.

Rhagwelir mai’r DU yw’r economi mawr fydd yn tyfu cyflymaf yn 2014. Ddoe, cododd y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ei rhagolwg GDP i’r DU am y pedwerydd tro yn olynol – i fyny i 3.2%.

Wrth sôn am y ffigurau, dywedodd y Canghellor George Osborne: “Diolch i waith caled pobl y DU, heddiw rydym yn cyrraedd carreg filltir bwysig yn ein cynllun economaidd tymor hir.”