Mae’r Royal Bank of Scotland wedi dyblu ei elw cyn treth, bron iawn, i £2.65 biliwn yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.
Roedd hynny er gwaethaf iddyn nhw orfod talu £250 miliwn am gam-werthu cynnyrch ariannol.
Mae’r banc wedi cyhoeddi canlyniadau dros wythnos yn gynnar oherwydd eu bod yn gryfach na beth oedden nhw’n ei ddisgwyl.
Mae eu helw cyn treth ar gyfer chwe mis cyntaf 2014 i fyny o £137 biliwn y flwyddyn flaenorol, meddai RBS.
Ond yn yr ail chwarter, roedden nhw 38% yn is na’r flwyddyn flaenorol oherwydd costau ailstrwythuro a darparu iawndal am gam-werthu yswiriant diogelu taliadau (PPI) a chyfnewidiadau cyfradd llog.
Dywedodd prif weithredwr RBS, Ross McEwan, bod y ffigyrau’n dangos cryfder sylfaenol y busnes, ond rhybuddiodd y bydd ambell gnoc arall ar y ffordd wrth iddyn nhw barhau i ddelio â sgandalau o’r gorffennol a chael gwared ag asedau gwenwynig.