Mae heddlu yng Nghastell Nedd Port Talbot yn apelio am dystion wedi i ddyn ddiodde’ ymosodiad rhywiol yng Nghwmafan ddydd Mercher.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 9 o’r gloch y nos ar drac rhwng Croeserw a Blaengwynfi. Roedd y dyn 36 oed newydd gerdded heibio i grwp o ddynion a oedd yn cerdded i gyfeiriad Blaengwynfi.
Ychydig wedyn, fe gafodd y dyn ei wthio i’r llawr a’i daro.
Mae un o ddynion y grwp wedi’i ddisgrifio fel dyn gwyn, 20 oed, rhwng 5’6″ a 5’8″ o daldra, gyda gwallt tywyll wedi’i eillio ar y ddwy ochr, yn gwisgo fest lliw golau, trowsus tywyll, a phâr o drênyrs New Balance lliw gwyn, llwyd a du.
Toc cyn yr ymosodiad, roedd y dioddefwr wedi siarad â dynes ar ben Groeserw o’r trac. Roedd hi’n mynd â chi Labrador am dro.