Mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu codi’r uchafswm cyflymder ar gyfer loriau ar ffyrdd gwledig i 50 milltir yr awr.

Ar hyn o bryd dim ond 40mya y mae’r cerbydau mwy yn cael teithio ar hyd y lonydd hynny, ac yn ôl y gweinidog trafnidiaeth Claire Perry fe fyddai’r newid i’r rheolau yn arbed £11m y flwyddyn i’r diwydiant cludo.

Ond mae grwpiau sy’n cynrychioli seiclwyr wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud nad yw llawer o loriau’n addas ar gyfer y pwrpas hwnnw.

Bydd y newid yn cael ei gyflwyno yn gynnar yn 2015, ac mae’r llywodraeth hefyd wedi dechrau proses ymgynghori i weld a ddylai’r uchafswm cyflymder ar gyfer loriau godi o 50mya i 60mya ar ffyrdd deuol.

“Rydym ni’n gwneud popeth y gallwn ni i symud Prydain a hybu twf,” meddai Claire Perry. “Bydd y newid yma’n gwneud  hynny ac yn arbed £11m y flwyddyn i’n diwydiant cludo ni.

“Mae gan Brydain un o’r recordiau diogelwch ffyrdd gorau yn y byd ond eto dyw cyfyngiadau cyflymder loriau heb newid ers y 1960au.

“Bydd hyn yn cael gwared â’r 20mya o wahaniaeth rhwng cyflymder uchaf lori a char, gan leihau goddiweddu peryglus a dod a chyflymder loriau yn hafal â cherbydau mawr eraill fel bysus a charafanau.”

Pryder y beicwyr

Fe groesawyd y penderfyniad gan lefarydd ar ran yr AA a’r RAC hefyd, a ddywedodd ei fod yn gwneud “synnwyr cyffredin” ac yn golygu y byddai’n llai tebygol o greu tagfeydd ceir y tu ôl i loriau araf.

Ond dywedodd rheolwr ymgyrchoedd British Cycling, Martin Key, ei fod wedi synnu â phenderfyniad y llywodraeth.

“Mae’n syfrdanol fod y Llywodraeth wedi cynyddu’r uchafswm cyflymder ar gyfer y cerbydau yma, â llawer ohonyn nhw yn anaddas,” meddai.

“Mae cerbydau mawr yn gyfrifol am 20% o farwolaethau beicwyr ac mae gan lawer ohonyn nhw lecynnau dall sydd yn atal gyrwyr rhag gweld pobl yn agos at flaen y cerbyd.

“Dyw’r Llywodraeth ddim yn cau bylchau yn y rheolau gan olygu bod rhai cerbydau mawr wedi osgoi gorfod gosod drychau ychwanegol ac offer diogelwch. Mae’n mynd yn erbyn bwriad y Llywodraeth o greu chwyldro beicio ym Mhrydain.”