Katie Jenkins
Mae dynes oedd wedi trywanu dyn am ei bod yn ofni y byddai’n ymosod arni, wedi cael ei charcharu am wyth mlynedd a hanner.
Roedd Katie Ann Jenkins, 24, wedi trywanu Richard Craddock, 51, yn ei wddf gyda chyllell yr oedd wedi ei chuddio yn ei bra, ar ôl iddo roi lifft iddi yn ei gar.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe fe blediodd Jenkins yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad gan ddweud nad oedd hi wedi bwriadu ei ladd nac achosi niwed iddo.
Clywodd y rheithgor bod Jenkins wedi dweud wrth ei ffrind ei bod wedi trywanu Richard Craddock am ei fod wedi “bygwth ei threisio”.
Cafodd y rheithgor eu gollwng ar ôl i’r cyhuddiad gael ei newid o lofruddiaeth i ddynladdiad.
Roedd ’na olygfeydd emosiynol yn y llys wrth i’r Barnwr Keith Thomas ei charcharu.
Dywedodd teulu Richard Craddock, a oedd yn dad i dri o blant, ei fod yn berson addfwyn a fyddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu pobl.