E-lun o'r dyn sy'n cael ei amau o ymosod ar ferch mewn parc
Mae Heddlu De Cymru, sy’n ymchwilio i ddigwyddiad amheus ym Merthyr Tudful, wedi rhyddhau e-lun o’r dyn maen nhw’n ei amau.
Cafodd yr heddlu eu galw i Splash Park ym Mharc Cyfarthfa, toc wedi 3 y prynhawn dydd Mawrth, ar ôl derbyn adroddiadau bod dyn wedi ceisio gafael yn nillad merch 11 mlwydd oed.
Roedd y ferch yn chwarae wrth y ffrâm ddringo ar y pryd.
Meddai’r heddlu fod y ferch wedi dychryn ond heb ei hanafu yn y digwyddiad ac fe wnaeth hi lwyddo i redeg yn ôl at ei ffrindiau.
Roedd adroddiadau bod y dyn wedi rhedeg i ffwrdd i goedwig gyfagos ac mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, rhwng 30 a 40 mlwydd oed sydd tua 5 troedfedd 10 modfedd.
Roedd ganddo wallt du hyd at ei ysgwyddau ac roedd ganddo farc unigryw – man geni o bosib – ar ochr dde ei drwyn.
Roedd yn gwisgo top llwyd gyda hwd a throwsus du ar y pryd.
Dywedodd John Diffey o Heddlu De Cymru: “Mae’n ddealladwy bod y gymuned wedi dychryn. Mae digwyddiad fel hyn yn achosi pryder i ni ac rydym yn ei gymryd o ddifrif.
“Fodd bynnag, rydym yn annog pobl i beidio â chynhyrfu wrth i ni ymchwilio i amgylchiadau’r hyn a ddigwyddodd.
“Ar hyn o bryd, rydym yn trin y digwyddiad fel ymosodiad. Wrth gwrs, fe ddylai rhieni fod yn ymwybodol o’r digwyddiad.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu ffonio taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.