Peaches Geldof, gyda'i gwr Tom Cohen

Fe fu Peaches Geldof farw o orddos o heroin ar ôl mynd yn gaeth i’r cyffur, yn ôl tystiolaeth a roddwyd i gwest heddiw.

Bu farw’r gyflwynwraig deledu, newyddiadurwraig a model 25 oed ym mis Mawrth eleni, ar ol cael ei chanfod gan ei gŵr Tom Cohen yn eu cartref fis Mawrth eleni.

Roedd Peaches Geldof wedi bod yn cymryd y cyffur amgen methadone am ddwy flynedd a hanner cyn iddi farw ond ym mis Chwefror fe ddechreuodd ddefnyddio heroin eto, meddai Cohen wrth y cwest.

Daeth yr heddlu o hyd i 6.9g o heroin mewn ystafell yn y cartref oedd â phurdeb o 61%, a fyddai’n werth rhwng £350 a £550, yn ogystal â theclynnau cyffuriau eraill yn y tŷ.

Dywedodd y crwner Roger Hatch fod y cyffur wedi chwarae rhan yn ei marwolaeth, ac er ei bod hi wedi llwyddo i stopio cymryd heroin yn gyfan gwbl erbyn mis Tachwedd 2013 roedd hi’n dal yn gaeth i methadone.

Yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd Paul Fotheringham roedd cryfder y cyffur a ganfuwyd yng nghartref Peaches Geldof yn “llawer uwch” na’r purdeb 26% sydd fel arfer yn cael ei werthu ar y stryd.

Mewn adroddiad fe ddywedodd y gwyddonydd fforensig Dr Emma Harris fod marwolaethau’n gyffredin ymysg defnyddwyr heroin oedd yn rhoi’r gorau i gymryd y cyffur ac yna’n dechrau eto.

Roedd hynny, meddai, oherwydd bod y corff wedi dechrau arfer peidio delio â lefelau uchel o’r cyffur bellach, ac felly methu ymdopi pan oedd person yn dechrau ei ddefnyddio eto.