David Cameron
Mae David Cameron wedi cyhoeddi mai arbenigwyr damweiniau awyr o Brydain fydd yn casglu data o’r bocsys du o awyren Malaysia Airlines, a syrthiodd i’r ddaear yn yr Wcráin.

Fe fydd arbenigwyr yn Farnborough yn Hampshire yn casglu’r wybodaeth ar gyfer “ymchwiliad rhyngwladol” yn dilyn cais gan Lywodraeth yr Iseldiroedd, meddai’r Prif Weinidog.

Roedd Prif Weinidog yr Iseldiroedd, Mark Rutte, wedi dweud yn gynharach y bydd yr awyren gyntaf yn cludo cyrff rhai o’r 298 o bobl fu farw yn cyrraedd Eindhoven yfory.

Roedd 10 o Brydeinwyr ymhlith y rhai fu farw pan syrthiodd awyren MH17 i’r ddaear yn nwyrain yr Wcrain. Mae lle i gredu mai gwrthryfelwyr Rwsiaidd fu’n gyfrifol am danio taflegryn at yr awyren.