Angharad Tomos
Fe fydd protest yn cael ei chynnal y tu allan i ganolfan y BBC ym Mangor heno, yn galw ar Radio Cymru i ohebu yn gytbwys am yr argyfwng presennol yn Gaza.
Mae ymgyrchwyr yn honni fod adroddiadau Radio Cymru yn “unochrog” gan roi safbwynt rhywun o Israel yn unig i’r gwrandawyr.
Mae’r brotest am 5:30 y tu allan i ganolfan y BBC ym Mryn Meirion ym Mangor Uchaf yn dilyn digwyddiadau eraill a drefnwyd yr wythnos diwethaf i godi ymwybyddiaeth am y sefyllfa dreisgar ym Mhalestina.
Cynhaliwyd sgwrs yng Ngŵyl Arall yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, gyda merch o Balestina yn siarad am ei phrofiadau personol, ac o hynny penderfynwyd cynnal protest yn erbyn y “gohebu unochrog.”
Gweithredu
Wrth siarad â golwg360 cyn y digwyddiad yng Ngŵyl Arall, dywedodd un o arweinwyr yr ymgyrch, yr awdures Angharad Tomos:
“Dwi’n tueddu i feddwl bod Radio Cymru yn unochrog iawn ar hyn o bryd.
“Dim ond llais rywun o Israel ydan ni’n ei gael, ond mae yna ddigon ohonom ni [yr ymgyrchwyr] wedi bod ym Mhalestina.
“Mi fues i yn y wlad yn 2006 ond roedd y sefyllfa yn rhy beryg yn Gaza i mi fynd yno, hyd yn oed yr adeg honno. A beth dw i’n ei gofio o’r ymweliad ydy cyrraedd adre a theimlo fod yna sefyllfa o Apartheid yno.
“Mae trychineb newydd yno bob diwrnod. Dyna pam ein bod ni’n teimlo fod yn rhaid i ni wneud rhywbeth yn syth.
“Rydym ni’n teimlo fod angen i bobol gael clywed am hyn rŵan.”
‘Ymdrechu i adlewyrchu ystod o leisiau’
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Rydym yn deall bod cynrychiolwyr o Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn yn protestio tu allan i’n stiwdios ym Mangor ac rydym yn trafod gyda’u cynrychiolwyr sut y gallwn wrando ar eu cwynion.
“Mae bod yn ddiduedd wrth galon gwasanaeth cyhoeddus. Ein rôl wrth adrodd y gwrthdaro parhaus a chymhleth hwn yw esbonio beth sy’n digwydd a pham, ac rydym yn ymdrechu i adlewyrchu ystod o leisiau, mewn sefyllfa lle mae safbwyntiau cryf iawn yn cael eu harddel.
“Fe fyddwn yn ymrwymo i barhau i adrodd a dadansoddi digwyddiadau sy’n newid yn gyflym mewn ffordd gywir, teg a chytbwys.”