Y gwasanaethau brys yn symud cyrff o safle'r ddamwain yn nwyrain yr Wcrain
Mae ymchwilwyr o’r DU wedi dechrau  eu gwaith o gynorthwyo gyda’r ymchwiliad i ddamwain  awyren Malaysia Airlines yn yr Wcrain.

Roedd y chwe arbenigwr o’r Adran Ymchwiliadau Damweiniau Awyr (AAIB) wedi cyrraedd prifddinas yr Wcrain, Kiev, ddydd Sadwrn.

Mae dau swyddog o’r Heddlu Metropolitan hefyd yn yr Wcrain. Fe fyddan nhw’n helpu gyda’r dasg o geisio adnabod y rhai fu farw.

Bu farw pob un o’r 298 o bobl oedd ar fwrdd awyren MH17 pan darodd y ddaear ddydd Iau.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd pryd fydd y tîm o’r AAIB yn cael mynd i safle’r ddamwain, os o gwbl.

Mae gwrthryfelwyr yn nwyrain yr Wcrain wedi atal ymchwilwyr rhag archwilio’r safle er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i’r awyren Boeing 777.

Mae tua 272 o gyrff wedi cael eu symud i gerbydau trên arbennig gan y gwrthryfelwyr ac mae’n ymddangos eu bod nhw wedi caniatáu i ymchwilwyr o’r Iseldiroedd archwilio’r cyrff.

Yn y cyfamser mae David Cameron wedi rhybuddio Rwsia y bydd yn wynebu sancsiynau pellach os nad yw’n gwneud mwy i weithredu yn erbyn y gwrthryfelwyr yn yr Wcrain.

Daeth ei rybudd i’r Arlywydd Vladimir Putin yn ystod ei ymweliad a’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd bore ma.

Dywedodd David Cameron: “Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn erchyll. Beth ddywedais i wrth Vladimir Putin oedd bod y byd yn gwylio Rwsia heddiw, mae’r byd yn gwylio Putin ac mae pawb eisiau eu sicrhau y bydd yn gwneud popeth yn ei allu i orfodi’r gwrthryfelwyr i ganiatáu mynediad i’r safle fel bod ymchwiliad yn gallu cael ei gynnal.”

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog wneud datganiad yn y Senedd prynhawn ma.