Stadiwm y Mileniwm
Mae gwaith yn cychwyn heddiw i osod cae newydd yn Stadiwm y Mileniwm cyn gemau cyfres yr Hydref tîm rygbi Cymru.
Meddai Undeb Rygbi Cymru fod y cae DESSO newydd, sy’n cydblethu glaswellt gyda miliynau o ffibrau artiffisial, yn cael ei osod fel rhan o brosiect adnewyddu mawr i wella ansawdd y cae.

Bydd y cae yn barod erbyn cyfres yr Hydref pan fydd tîm rygbi Cymru’n wynebu Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, y bydd y cae newydd yn “chwyldroadol”.
Meddai: “”Wrth i gontractwyr ddechrau’r gwaith o osod y cae heddiw, bydd y prosiect yn llythrennol yn torri tir newydd, wrth i ni fynd ati i gwblhau’r prosiect adnewyddu mwyaf yn hanes y stadiwm mewn da bryd ar gyfer gemau cyfres yr Hydref gemau ac, mewn ychydig dros flwyddyn, Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015.”

Mae Stadiwm y Mileniwm wedi cynnal dros 350 o ddigwyddiadau mawr ers iddi agor gyntaf i gynnal Cwpan Rygbi’r Byd 1999.