Gordon Brown
Mae mwy na 1,200 o Albanwyr yn derbyn trawsblaniad organau oddi wrth roddwyr yng Nghymru a Lloegr meddai’r cyn Brif Weinidog Gordon Brown.

Dywedodd cyn arweinydd y Blaid Lafur y dylen ni fod yn falch o barodrwydd pobl ledled y DU i helpu rhai o ardaloedd eraill yn hytrach na thorri’r undeb yn llwyr.

Ychwanegodd bod 45,500 o Albanwyr yn derbyn triniaeth mewn ysbytai ac awdurdodau iechyd mewn rhannau eraill o’r DU bob blwyddyn.

Mewn dros hanner yr achosion ble mae Albanwyr yn derbyn organ newydd, roedd y rhoddwr yn dod o rywle arall yn y DU, meddai.

Dywedodd hefyd bod yr Alban wedi derbyn tair gwaith yn fwy o waed o Loegr a Chymru nag oedd y wlad wedi ei gynhyrchu ar gyfer trallwysiad gwaed.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban wedi dweud bod iechyd eisoes wedi cael ei ddatganoli i’r Alban ac na fyddai annibyniaeth yn newid y trefniadau sydd mewn lle yn barod.

Meddai’r llefarydd: “Mae’r GIG yn yr Alban eisoes wedi’i ddatganoli yn llawn ac ni fydd annibyniaeth yn newid y trefniadau sy’n bodoli’n barod rhwng yr Alban a rhannau eraill o’r DU mewn perthynas â rhoi organau.”

Ond honnodd Gordon Brown, sy’n Aelod Seneddol dros Kirkcaldy a Cowdenbeath, bod cynllun Llywodraeth yr Alban i “dorri’r holl gysylltiadau cyfansoddiadol â gweddill y DU” yn “gam yn ôl”.