Mae deiseb, gyda dros 10,000 o enwau arni, a gyflwynwyd i Gynulliad Cymru’r wythnos ddiwethaf, wedi cael ei throsglwyddo at sylw Llywodraeth Cymru.

Mae’r ddeiseb yn annog Cynulliad Cymru i alw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r arweiniad sy’n cael ei roi i awdurdodau lleol i brifathrawon allu caniatáu absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol.

Mae nifer o awdurdodau lleol wedi hysbysu rhieni na fydd hawl ganddynt gymryd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol ar gyfer gwyliau neu ddigwyddiadau teuluol o hyn ymlaen. Yn hytrach, bydd unrhyw absenoldeb yn cael ei nodi fel absenoldeb heb ganiatâd, sydd hefyd yn cael effaith ar ffigyrau absenoldeb ysgolion unigol.

Trafodwyd y ddeiseb yn ystod Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth diwethaf a phenderfynwyd ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis,  i dynnu ei sylw at y ddeiseb.

Absenoldeb

Cafodd y ddeiseb ei chychwyn yn wreiddiol ar wefan Campaigns By You gan Bethany Walpole-Wroe o Gwrtnewydd, mam leol sy’n pryderu am y sefyllfa.

Dywedodd Bethany Walpole-Wroe: “Rydw i’n hynod o falch gydag ymateb Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chanlyniad y cam cyntaf hwn o’r broses.

“Cyn hyn, roeddem fel rheini’n gweithio’n agos gyda’r ysgol ar y mater, a byddai absenoldeb yn cael ei wrthod neu ei ganiatáu yn seiliedig ar eu perthynas a gwybodaeth yr ysgol o’r plant dan sylw a’u cofnod absenoldeb, yn hytrach na gwaharddiad cyffredinol i bawb.

“Hoffem ddychwelyd i’r sefyllfa honno, sefyllfa rydym yn teimlo sy’n well i’r rhieni, yr ysgolion, ac yn bwysicach fyth, i’r plant.”

‘Cefnogaeth’

Meddai William Powell AC, cadeirydd pwyllgor deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Dechreuodd y ddeiseb fel dogfen leol ond enillodd ddiddordeb a chefnogaeth dros Gymru gyfan yn gyflym.

“Mae’n amlwg fod y mater wedi taro tant gyda nifer o bobl sydd â phlant yn yr ysgol sydd efallai’n cael trafferth fforddio gwyliau y tu allan i dymor yr ysgol.

“Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi penderfynu gofyn am fwy o wybodaeth gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn ogystal â’r Comisiynydd Plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac rydym yn aros am eu hymateb.”

Mae’r ymgyrchwyr wedi dechrau cynnal arolwg i ddarganfod profiadau unigol eraill ar y mater.  Os hoffech gyfle i ddweud eich dweud, gallwch gwblhau’r arolwg byr yma – https://www.surveymonkey.com/s/NWQ3VLY

Mae’r ddeiseb yn parhau i fod ar agor, a gallwch ddod o hyd iddi yma – https://you.38degrees.org.uk/p/schoolholidays