Mae prif weithredwr Tesco Philip Clarke wedi ymddiswyddo o gwmni archfarchnad mwyaf Prydain.

Mae’r grŵp wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiant ers pedwar degawd, ac mae Tesco wedi rhybuddio bod ei elw yn mynd i fod yn is na’r disgwyl eleni am chwe mis cynta’r flwyddyn.

Fe fydd Philip Clarke yn rhoi’r gorau i’w swydd ar 1 Hydref a bydd yn cael ei olynu gan brif weithredwr Unilever Dave Lewis.

Bydd Philip Clarke yn parhau mewn rôl gynorthwyol tan fis Ionawr.