Alex Salmond
Roedd un Albanwr ar fwrdd yr awyren Malaysia Airlines hediad MH17 a gwympodd i’r ddaear wrth hedfan dros yr Wcrain, meddai Prif Weinidog yr Alban.
Fe gadarnhaodd Alex Salmond heddiw fod un o’r rhai a laddwyd yn y trychineb, yn hanu o’r Alban. Galwodd hefyd am “ymchwiliad brys ac effeithiol” er mwyn penderfynu beth aeth o’i le.
“R’yn ni bellach yn gwybod fod un Albanwr wedi marw yn y trychineb ofnadwy hwn,” meddai Alex Salmond.
“Wrth i ni baratoi i groesawu Gemau’r Gymanwlad i’r Alban, fe ddylen ni nodi fod tua traean o’r 298 o deithwyr ar yr awyren yn dod o wledydd y Gymanwlad.
“Ar ran llywodraeth yr Alban a phobol y wlad, rydw i’n anfon fy nghydymdeimlad i’w teuluoedd, ac at deuluoedd pob un o’r dioddefwyr sydd wedi’u lladd.
“Nawr, mae’n hollbwysig fod ymchwiliad rhyngwladol yn cael ei gynnal er mwyn penderfynu achos y ddamwain,” meddai Alex Salmond.