Mae dyn 23 blwydd oed wedi’i arestio wedi i ddyn 18 oed gael ei drywanu yn y brifddinas neithiwr.

Fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i City Road am 6.20yh nos Wener, wedi adroddiadu fod dyn 18 oed wedi’i anafu gyda llafn.

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Mae Heddlu De Cymru yn holi dyn lleol ar amheuaeth o anafu bwriadol.