Fydd rhedwyr Ras yr Wyddfa heddiw ddim yn mynd i gopa mynydd ucha’ Cymru – a hynny am resymau diogelwch.
Wrth i’r niwl a’r glaw dywallt ar Wynedd ers ben bore, ac wrth i stormydd mellt a tharanau fygwth yn ardal Llanberis, mae trefnwyr y digwyddiad blynyddol wedi penderfynu newid llwybr y ras yn hytrach na’i chanslo.
Fe fydd y 650 o redwyr, yn hytrach yn rhedeg y 10 milltir o lan Llyn Padarn heibio i Glogwyn Du’r Arddu am y tro cynta’ erioed.
Dyma’r tro cynta’ hefyd, ers sefydlu’r ras yn 1976, i’r trefnwyr orfod newid y llwybr.