Roedd Eryr Swydd Essex yn fuddugol yn erbyn Morgannwg yn Stadiwm Swalec heno, ond mae gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd wyth ola’r T20 Blast yn dal yn fyw yn sgil canlyniadau eraill yn y grŵp.

Tarodd Murray Goodwin 71 a Jacques Rudolph 60* wrth i Forgannwg sgorio 157-2 yn eu hugain pelawd, ond cyrhaeddodd yr ymwelwyr eu nod yn y ddeunawfed belawd gan ennill yn gyfforddus o saith wiced, diolch yn bennaf i glatsio gan y chwaraewr amryddawn o Seland Newydd, Jesse Ryder.

Y Cyfnod Clatsio

Dechrau digon tawel gafodd Morgannwg yn y belawd gyntaf wedi iddyn nhw gael eu gwahodd gan yr Eryr i fatio’n gyntaf.

Y troellwr llaw chwith, Tim Phillips fowliodd y belawd gyntaf o ben Heol y Gadeirlan wrth i agorwyr Morgannwg, Jacques Rudolph a’r capten Jim Allenby gyrraedd 3-0.

Ond dechreuodd y clatsio oddi ar belen gynta’r ail belawd wrth i Rudolph yrru Graham Napier am bedwar trwy’r cyfar, y Cymry’n 8-0 wedi dwy belawd.

Newid troellwr wnaeth yr Eryr yn y drydedd belawd, wrth i Tom Westley ddisodli Phillips ac fe gafodd ei yrru am bedwar trwy’r cyfar gan Allenby wrth i’r tîm cartref ymestyn eu cyfanswm i 16-0.

Pelawd gostus i’r Eryr oedd y bedwaredd wrth i Matt Salisbury gael ei gyflwyno i’r ymosod, a Jim Allenby yn ei yrru’n syth ddwywaith am bedwar wrth i Forgannwg wibio i 29-0.

Dychwelodd Phillips i fowlio o ben Heol y Gadeirlan  yn y bumed pelawd ac fe gafodd groeso mawr gan Rudolph wrth iddo’i yrru am bedwar oddi ar ei belen gyntaf, a Morgannwg yn 37-0 erbyn diwedd y belawd.

Napier fowliodd y chweched a chael ei yrru trwy’r cyfar gan Rudolph wrth i Forgannwg gyrraedd 43-0 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.

Cafodd Eryr Swydd Essex ddechreuad gwell na Morgannwg i’r cyfnod clatsio, wrth i Mark Pettini daro pedwar oddi ar Jim Allenby i gyrraedd 10-0 oddi ar y belawd gyntaf.

Tarodd Jesse Ryder chwech a dau bedwar oddi ar Michael Hogan yn yr ail belawd wrth i’r ymwelwyr wibio i 25-0.

Will Owen fowliodd y drydedd ac fe barhaodd y clatsio wrth i Ryder dynnu’r bowliwr am bedwar cyn i Pettini yrru trwy ochr y goes am bedwar arall wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 36-0.

Y troellwr Andrew Salter fowliodd y bedwaredd belawd o ben Heol y Gadeirlan a chael ei daro am chwech dros ei ben gan Ryder wrth i’r Eryr gyrraedd 45-0.

Cafodd Hogan ei daro am dri phedwar gan Ryder ac un gan Pettini yn y bumed pelawd wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 64-0.

Dychwelodd Allenby o ben Heol y Gadeirlan i fowlio’r chweched a chael ei daro am bedwar gan Pettini cyn i’r batiwr ddarganfod dwylo diogel Jacques Rudolph ar yr ochr agored, yr Eryr yn 73-1 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.

Y pelawdau canol

Wrth i’r Eryr barhau i amrywio’r bowlwyr, cafodd Ravi Bopara ei gyflwyno i’r ymosod yn y seithfed belawd ac fe ddaeth cyfle i stympio capten Morgannwg, Jim Allenby, ond fe gafodd yr apêl ei gwrthod gan y dyfarnwr Jeremy Lloyds, a’r cyfanswm yn 47-0 ar ddiwedd y belawd.

Dychwelodd Salisbury o ben afon Taf yn yr wythfed ac fe gyrhaeddodd Morgannwg 52-0 wrth i Allenby a Rudolph adeiladu partneriaeth gadarn.

Parhaodd Bopara o ben Heol y Gadeirlan yn y nawfed ac fe ddaeth llwyddiant bron yn syth wrth i Allenby gael ei ddal gan y bowliwr am 18, a Morgannwg yn 53-1.

Ond gafaelodd y batiwr newydd Murray Goodwin ym mowlio Bopara o’r cychwyn cyntaf, wrth iddo’i dorri am bedwar heibio’r wicedwr James Foster wrth i’r Cymry orffen y belawd ar 57-1.

Cafodd y chwaraewr amryddawn o Seland Newydd, Jesse Ryder ei gyflwyno yn y degfed belawd ac fe gadwodd y pwysau ar Forgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd 61-1 hanner ffordd trwy eu pelawdau.

Ildiodd Bopara chwech rhediad yn yr unfed belawd ar ddeg wrth i Forgannwg barhau’n gyson i gyrraedd 67-1.

Tarodd Goodwin chwech anferth yn y ddeuddegfed belawd yn syth dros ben y bowliwr Ryder wrth i Forgannwg gyrraedd 79-1.

Dychwelodd Phillips yn y drydedd belawd ar ddeg a bowlio pelen wag wrth i Forgannwg fanteisio ar fowlio llac i gyrraedd 88-1.

Napier fowliodd y bedwaredd belawd ar ddeg wrth i Forgannwg ymestyn eu cyfanswm i 95-1.

Tarodd Goodwin chwech a phedwar oddi ar Phillips yn bymthegfed pelawd wrth i Forgannwg gyrraedd 107-1.

Will Owen fowliodd y seithfed belawd o ben afon Taf wrth i’r cyfyngiadau maesu gael eu llacio a manteisiodd y batiwr newydd Tom Westley ar hynny wrth iddo daro pedwar yn syth heibio’r bowliwr wrth i Eryr Swydd Essex gyrraedd 83-1.

Trodd Morgannwg at y troellwr llaw chwith Dean Cosker i fowlio’r wythfed ac fe lwyddodd i arafu’r clatsio wrth i’r Eryr sgorio tri rhediad i gyrraedd 86-1.

Dychwelodd Salter i fowlio o ben afon Taf yn y nawfed belawd a chafodd Tom Westley ei ollwng gan Dean Cosker cyn i Ryder gyrraedd ei hanner cant oddi ar 27 o belenni.

Ond cyn diwedd y belawd, collodd Ryder ei wiced, wedi’i ddal gan Chris Cooke am 51, yr Eryr yn 96-2 hanner ffordd trwy’r batiad.

Cafodd Allenby ei daro am chwech gan Ravi Bopara yn yr unfed belawd ar ddeg wrth i’r Eryr ymestyn eu mantais i 106-2.

Cosker fowliodd y ddeuddegfed belawd o ben Heol y Gadeirlan ac fe gafodd apêl am stympiad yn erbyn Westley ei gwrthod cyn i’r batiwr yrru’r bêl trwy’r cyfar am bedwar, yr Eryr yn 113-2 gydag wyth belawd yn weddill.

Trodd Morgannwg at Hogan yn y drydedd belawd ar ddeg, wrth i nod yr Eryr ostwng i 45 oddi ar 48 o belenni, ac fe ildiodd chwech rhediad wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 119-2.

Salter fowliodd y bedwaredd belawd ar ddeg  gan ildio chwech rhediad, a’r nod i’r Eryr bellach yn 33 oddi ar 30 o belenni.

Cafodd Will Owen ei dynnu am bedwar gan Westley oddi ar belen gynta’r bymthegfed belawd ac fe ildiodd belen lydan mewn pelawd a gostiodd 12 o rediadau, yr Eryr yn 137-2 gyda phum pelawd yn weddill.

Y pelawdau clo

Tarodd Goodwin ddau bedwar oddi ar Bopara yn yr unfed belawd ar bymtheg cyn i Jacques Rudolph gyrraedd ei hanner cant oddi ar 45 o belenni, a Morgannwg yn 122-1 gyda phedair pelawd yn weddill.

Newidiodd Ryder i ben Heol y Gadeirlan yn yr ail belawd ar bymtheg ac fe gyrhaedodd Rudolph ei hanner cant oddi ar 29 o belenni, cyn i Goodwin ychwanegu pedwar at y cyfanswm, wrth i Forgannwg gyrraedd 132-1.

Dychwelodd Salisbury yn y ddeunawfed belawd ac fe darodd Rudolph bedwar wrth i Forgannwg ymestyn eu cyfanswm i 143-1.

Daeth newid arall yn y bowlio yn y belawd olaf ond un wrth i Napier symud i ben Heol y Gadeirlan gan ildio pedwar rhediad yn unig, y Cymry’n 147-1 ar ddiwedd y bedwaredd belawd ar bymtheg.

Cafodd Goodwin ei ollwng ddwywaith yn y belawd olaf, y tro cyntaf gan y wicedwr Foster oddi ar Salisbury a’r ail waith gan Ben Foakes ar y ffin, cyn taro chwech oddi ar y belen olaf ond un.

Ond daeth lwc Goodwin i ben wrth iddo gael ei ddal oddi ar belen ola’r batiad gan Mark Pettini am 71, a Morgannwg yn gorffen ar 157-2.

Trodd Morgannwg at Andrew Salter i fowlio’r unfed belawd ar bymtheg ac fe gafodd ei daro am ddau bedwar trwy’r cyfar gan Tom Westley a Ravi Bopara wrth i’r Eryr gyrraedd 148-2 gyda phedair pelawd yn weddill.

Y troellwr llaw chwith Dean Cosker fowliodd yr ail belawd ar bymtheg ac fe ildiodd bump rhediad gan adael nod o bump am y fuddugoliaeth i’r Eryr.

Allenby fowliodd y ddeunawfed belawd ac fe ddaeth rhywfaint o lwyddiant wrth i Tom Westley ddarganfod dwylo Stewart Walters ar y ffin ochr agored, yr Eryr yn 153-3 ond roedd hi ychydig yn rhy hwyr wrth i Bopara daro pedwar i ennill yr ornest.