Mae Angela Merkel Canghellor Yr Almaen wedi talu teyrnged i’r chwaraewr pêl-droed Philip Lahm.
Yr amddiffynnwr amryddawn oedd capten y wlad wrth iddyn nhw ddisgleirio yng Nghwpan y Byd Brasil pan sgwrion nhw’r llawr gyda’r tîm cartref 7-1 yn y gêm gynderfynol, cyn cipio’r Cwpan yn erbyn Yr Ariannin – y tîm cyntaf o Ewrop i wneud hynny yn Ne America.
Yn 30 oed, bu Lahm yn chwarae i’r Almaen am ddegawd gan gasglu 113 o gapiau ers 2004.
Mae ganddo gytundeb i barhau i chwarae gyda’i glwb Bayern Munich tan 2018.
Heblaw am Gwpan y Byd, mae wedi ennill y Bundesliga a Chwpan Yr Almaen bum gwaith a Chynghrair y Pencampwyr.