Mae Lloegr yn cadw llygad ar asgellwr Cymru Tom Lawrence ac yn gobeithio’i berswadio i chwarae iddyn nhw ar y lefel rhyngwladol, yn ôl adroddiadau.

Fe arwyddodd Lawrence, a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Manchester United ddiwedd tymor diwethaf, gytundeb newydd heddiw i aros gyda’r clwb am bum mlynedd.

Mae’n ymddangos fod Caerdydd ac Abertawe wedi ceisio arwyddo Lawrence ym mis Ionawr, a gyda’i gytundeb yn dod i ben yr haf hwn roedd nifer o glybiau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth wedi bod ar ei ôl.

Bydd nawr yn medru canolbwyntio ar geisio ennill ei le yng ngharfan Man United, o dan eu rheolwr newydd Louis Van Gaal – er ei bod hi’n fwy tebygol mai ar fenthyg yr aiff Lawrence eto’r tymor nesaf.

Dal llygad Lloegr

Mae’n ymddangos fod yr asgellwr ifanc gafodd ei eni yn Wrecsam hefyd wedi dal llygad Lloegr, gyda Sky Sports yn honni fod pennaeth ieuenctid FA Lloegr Gareth Southgate yn ystyried ei berswadio i droi atyn nhw.

Cafodd Lawrence ei alw i garfan Cymru ym mis Mehefin ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd, ond ni ymddangosodd ar y cae.

Mae eisoes wedi chwarae droeon dros dîm dan-21 Cymru – ond mae hefyd yn gymwys i chwarae dros Loegr gan fod ei dad yn Sais.

Ni fydd yr ymosodwr 20 oed wedi ymrwymo i chwarae dros unrhyw wlad nes y bydd wedi chwarae mewn gêm gystadleuol.

Mae Cymru’n dechrau eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016 mewn llai na deufis, a phetai Lawrence yn chwarae yn y gêm agoriadol honno yn erbyn Andorra ni fyddai gan Loegr obaith o’i fachu.

Nes hynny gallai’r chwaraewr newid ei feddwl – fel y gwnaeth Jonathan Bond yn 2013 pan benderfynodd ei fod am gynrychioli Lloegr.

Roedd y golwr ifanc eisoes wedi ennill capiau ieuenctid dros Gymru, ac fe gafodd ei gynnwys yng ngharfan y tîm cyntaf pan oedd ond yn 17 oed yn ystod ymgyrch ragbrofol Ewro 2012.

Roedd sôn hefyd fod Lloegr yn ystyried perswadio asgellwr ifanc Lerpwl Harry Wilson i newid gwlad, ond fe ddaeth Wilson ymlaen i Gymru yn erbyn Gwlad Belg y llynedd i roi taw ar hynny – a thorri’r record am chwaraewr ieuengaf ei wlad yn y broses.