Mae QPR wedi cytuno ar ffi gyda Chaerdydd am eu hamddiffynnwr Steven Caulker, yn ôl rheolwr y clwb o Lundain Harry Redknapp.
Wrth siarad â’r wasg heddiw fe ddywedodd Redknapp ei fod yn obeithiol y gall arwyddo’r amddiffynnwr er gwaethaf diddordeb gan glybiau eraill.
Nid yw Caulker na Frazier Campbell wedi teithio gyda charfan Caerdydd i Awstria’r wythnos hon, gyda rheolwr yr Adar Gleision Ole Gunnar Solskjaer yn cyfaddef nad yw’n disgwyl i’r ddau fod yn y clwb erbyn dechrau’r tymor.
Mae gan y ddau gymalau yn eu cytundebau yn caniatáu iddyn nhw adael gan fod Caerdydd wedi disgyn o’r Uwch Gynghrair.
Ac fe awgrymodd rheolwr QPR fod Caulker yn awyddus i ymuno â’i glwb er mwyn chwarae ochr yn ochr â Rio Ferdinand, rhywbeth allai ei gynorthwyo i adennill ei le yng ngharfan Lloegr.