Roedd Iolo Cheung wedi galw ar Yr Almaen i chwarae pêl-droed secsi, a dyna gafwyd.
Mae Cwpan y Byd drosodd am bedair blynedd arall, ac ôl llond trol o goliau, cyffro ac ambell sioc, mae’n bryd edrych yn ôl ar sut wnaethon ni ddarogan y twrnament.

Bu criw’r pod pêl-droed eisoes wrthi’n wythnos hon yn crynhoi uchafbwyntiau’r gystadleuaeth a thrafod eu hoff gemau a chwaraewyr.

Ond sut wnaeth y tri gŵr doeth Owain Schiavone, Barry Thomas ac Iolo Cheung, ddarogan y byddai pethau’n mynd cyn dechrau’r gystadleuaeth?

Gallwch ddarllen eu profffwydo gwreiddiol nhw yma – dyma’r tri yn edrych nôl ar sut wnaethon nhw…

Enillwyr Cwpan y Byd

Owain Schiavone – Yr Ariannin: Wel, doeddwn nhw ddim yn rhy bell o’i gwneud hi. Yn anffodus iddyn nhw, a fy narogan i, fe gafodd Aguero anaf yn fuan yn y bencampwriaeth, ac roedd Messi ymhell o’i orau. Fe wnaethon nhw’n well na Brasil yn do hogia …

Barry Thomas – Brasil: Fe gafodd Brasil help y dyfarnwr i drechu Croatia, ond ar wahân i’r sylw am y dyfarnwyr yn ffafrio’r tîm cartref, roeddwn – fel sawl dynes sydd wedi profi cosfa annifyr ar ôl wacsio ei llinell bikini – yn hollol rong i fod wedi mynd am Frasil.

Do’n i ddim meddwl y byddai’r Almaenwyr yn curo’r holl beth am nad oedd yr un wlad o Ewrop erioed wedi hawlio’r Cwpan yn ne America, ond doedd hi ddim cyn boethed ag oedd pobol wedi ddarogan. Enillwyr teilwng a chongrats i Iolo Cheung am how-ddarogan y bydde’r Bosh yn chwarae pêl-droed secsi!

Iolo Cheung – Brasil: Wel, fe aeth pethau o chwith yn fanno, do?! Gorddibynnu ar Neymar ac wedyn colli’u pennau’n llwyr yn erbyn yr Almaen. Er, nes i rybuddio y gallai’r pwysau fynd yn ormod, ac mi ddigwyddodd hynny’n sicr. Ac mi wnaethon nhw bopeth i drio perswadio’r niwtral i beidio â’u cefnogi.

Prif Sgoriwr

OS – Karim Benzema: Roedd y darogan yma’n edrych yn dda ar ddiwedd y rownd gyntaf o gemau a Benzema wedi sgorio dwy yn erbyn Honduras. Yn anffodus dim ond un arall oedd o i sgorio yn y grŵp a daeth Ffrainc benben â’r darpar bencampwyr yn y chwarteri.

BT – Lionel Messi: Pedair gôl gafodd Messi, a doedd yr un ohonyn nhw’n cymharu efo goreuon Maradonna…i ddweud y gwir, tydi’r boi ddim yn yr un cae a Diego, a oedd yn athrylith efo edge ac yn hogyn drwg fedra rywun ddim helpu mond licio. Mae Messi yn stiff fel cardboard ac efo llai o bersonoliaeth na brwsh bog…pan gollodd Yr Ariannin yn ffeinal Italia ’90 roedd Diego yn ei ddagrau. Dim ond Mascherano welish i’n wylo ‘leni…roedd Messi yn edrych fel fod o ychydig bach yn anhapus ar ôl i’w farbwr personol dorri hanner modfedd yn ormod oddi ar ei ffrinj, dim mwy na hynny.

Doniol oedd gweld Wayne Rooney yn methu sawl sitar, er mae’n rhaid ei glodfori am sgorio mewn Cwpan y Byd, a hynny dim ond ar ei drydydd ymweliad â ffeinals y gystadleuaeth…

IC – Sergio Aguero: Digon tawel yn y gemau cyntaf, pan oedd disgwyl y gallai’r Ariannin fanteisio ar grŵp gwan, ac wedyn anaf yn ei gadw allan am ran fwyaf o’r gweddill. Ymosod ei dîm yn ddigon tila ar y cyfan.

Chwaraewr i’w wylio

OS – Lionel Messi: Fo enillodd y wobr swyddogol am chwaraewr gorau’r twrnament ynde? Er hynny, rhaid cyfaddef bod hynny’n syndod, a bod nifer o chwaraewyr eraill wedi serennu’n fwy nag o, er iddo gario’i dîm trwy’r gemau grŵp.

BT – Cristiano Ronaldo: Ar ôl yr heroics yn y gemau ail-gyfle yn erbyn Sweden, chafodd Ronaldo ddim help mewn tîm cachu-rwtch a chlowns fel Pepe. Cwpan y Byd i’r rhai oedd yn chwarae fel timau oedd hon, efo America a Chosta Rica yn dangos bod motto Cymru, ‘gorau chwarae cyd-chwarae’, yn drech nag unrhyw Ronaldo …

IC – Julian Draxler: Prin y gwelsom ni’r gŵr ifanc o Schalke wrth i Joachim Low sticio hefo’r enwau mawr – doedd edrych yn dda fel eilydd yn erbyn Brasil prin yn cyfri! Un i’r dyfodol ydi hwn, mae’n ymddangos.

Ceffylau Tywyll

OS – Ffrainc: Ro’n i’n meddwl bod cyfle gan Ffrainc i greu sioc, yn enwedig ar ôl y grwpiau, ond roedd Yr Almaen ychydig yn rhy dda iddyn nhw yn yr wyth olaf. Heb os, Costa Rica oedd syndod mwyaf y bencampwriaeth, gan guro Uruguay a’r Eidal, ac yn agos iawn at gyrraedd y rownd gynderfynol.

BT – Traeth Ifori: Wnaeth y Traeth Ifori, fel gwledyddd eraill Affrica, fethu â chwarae fel tîm. Biti garw. I’r gwrthwyneb, roedd Colombia, Mecsico a Chosta Rica i’w canmol am yr union beth yna …

IC – Chile: Er gwaetha’r grŵp heriol fe wnaethon nhw’n dda, ac roedden nhw’n chwarae efo cyffro ymosodol oedd yn wych i’w wylio. Yn anffodus fel y gweithiodd pethau allan, fe chwaraeon nhw Brasil yn rownd yr 16 a mynd allan o drwch postyn. Da ar y cyfan, ond eraill gwell.

Siom y Twrnament

OS – Lloegr: O’n i’n reit agos ati efo hon, ond roedd Sbaen yn fwy siomedig, ac i mi’n bersonol Yr Eidal wrth gwrs.

BT – dim Roy Keane: At ei gilydd, roedd y sylwebwyr yn uffernol o ailadroddus, syrffedus a hunllefus o undonog, ond cafwyd eithriadau clodwiw: Martin O’Neill, Rio Ceg Lac ac Alan Shearer hefyd, am ddweud y gwir – o’r diwedd – am anallu Wazza ar y lefel ycha’.

Ac mae rhywun yn ITV yn haeddu cysgu efo’r pysgod am roi Cannavaro o flaen camera cyn t-jecio’i fod o’n medru siarad Susnag. Mamma mia

IC – Yr Iseldiroedd: Gan mod i ‘di meddwl fod Chile am neud yn dda, roedd hi rhwng yr Iseldiroedd a Sbaen i fynd adra’n gynnar. Yn anffodus ges i honna’n anghywir o bell ffordd!

Pa mor bell aiff Lloegr?

OS – grŵp: “Byddan nhw’n ffodus i gael mwy na dau bwynt yn y grŵp.” Fe gawson nhw un pwynt … oes angen i mi ddweud mwy?

BT – grŵp: Petae petase…tase Wazza wedi claddu’r cyfleon, byddai’r Sacson wedi bod ynddi am ryw hyd. Hen dro! Biti gweld Yr Eidal yn ffarwelio mor fuan, roedd gwylio Pirlo a De Rossi wrthi yng nghanol cae yn poetri-mewn-mosiwn. Roedd brathiad Suarez Y Dannadd yn gomic – ond ddim pats ar Law Ddwyfol Diego yn ’86. Dyna beth oedd twyllo epig i ddotio ato …

IC – chwarteri: Ddim yn agos efo hon chwaith – doedd gen i ddim disgwyliadau mawr ac felly wedi meddwl i’r gwrthwyneb a darogan y byswn nhw’n ffliwcio hi. Nid mod i’n cwyno … ond dwi’n dal i ddeud nad oedden nhw mor wael ac mae’r canlyniadau’n awgrymu.

Uchafbwynt personol

OS – Yr Eidal yn herio Lloegr: Mi wnes i fwynhau’r gêm yma’n fawr – gêm dda, Pirlo’n swyno, a’r Eidal yn curo. Yr uchafbwynt mwy cyffredinol oedd gweld pob tîm, gydag un neu ddau eithriad, yn mynd  amdani ac yn chwarae pêl-droed ymosodol.

BT – ffeinal dda, a Sbaen allan: Braf oedd gweld Sbaen yn cael eu malu gan Robin a Robben, ta-ta tiki-taki, tiki-taki ta-ta!

Fyswn i wedi licio gweld Yr Almaen v Yr Iseldiroedd yn y ffeinal, a Robben a Neuer yn carlamu ffwl pelt am y bêl a chwalfa epig ddilynol.

Doedd Yr Ariannin ddim yn haeddu cyrraedd y ffeinal ar ôl chwarae pêl-droed diflas, gor-ddibynnol ar Messi. Ond yn rhyfedd ddigon, y ffeinal oedd eu gêm orau ac fe ddyle Higuain a Messi fod wedi sgorio. Braf gweld y tîm â’r garfan orau yn dod i’r brig.

Cwpan y Byd Hogia’r Ffarm oedd hon, gyda Philip Lahm ‘Chop’ a Bastian Schweinsteiger (Ffarmwr Moch) yn cynaeafu’r clod wedi sawl tymor ar y tractor tiwtonaidd…

IC – Uruguay allan yn ddadleuol: Ges i union wrthwyneb y dymuniad yma, wrth i’r Uruguayaid anfon yr Eidal adra’n gynnar ar ôl brathiad Suarez! Ond falch deud fod y llall, sef bod yr Almaen yn chwarae pêl-droed secsi, wedi’i gwireddu i’r dim.