Bydd Morgannwg yn croesawu Eryr Swydd Essex i’r Swalec heno, gan wybod y byddai buddugoliaeth dros y sir sydd ar frig y tabl yn cynyddu gobeithion y Cymry o gyrraedd rownd wyth ola’r T20 Blast.
Mae Morgannwg yn bedwerydd gyda dwy gêm yn weddill, ac mae’r Eryr eisoes wedi cadarnhau eu lle yn y rownd nesaf.
Dydy’r canlyniadau’r wythnos hon ddim wedi bod o blaid Morgannwg, wedi iddyn nhw golli yn erbyn Siarcod Swydd Sussex nos Fawrth ac o ganlyniad i Swydd Surrey yn curo Gwlad yr Haf nos Fercher.
Swydd Surrey sy’n ail yn y tabl o flaen Swydd Hampshire ac mae gan Swydd Surrey ac Eryr Swydd Essex gêm wrth gefn o’i gymharu â Morgannwg.
Pe bai Morgannwg yn llwyddo i orffen yn y ddau safle uchaf, fe fydden nhw’n sicrhau gornest gartref yn Stadiwm Swalec yn rownd yr wyth olaf, ond mae’n edrych yn fwy tebygol y bydd yn rhaid i’r trydydd neu’r pedwerydd safle wneud y tro.
Eryr Swydd Essex fu’n fuddugol y ddau dro diwethaf iddyn nhw gwrdd â Morgannwg yn y T20 yng Nghaerdydd.
Yn gynharach y tymor hwn, yr Eryr oedd yn fuddugol yn Chelmsford o bedair wiced, er gwaethaf 63 gan Jacques Rudolph a 68 gan y capten Jim Allenby.
Bydd Morgannwg yn croesawu’r bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg yn ôl i’r garfan heno yn dilyn anaf.
Carfan 14 dyn Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, S Walters, M Goodwin, C Cooke, B Wright, T Lancefield, G Wagg, A Salter, D Cosker, K Bull, W Owen, M Hogan