Mae Rhanbarth y Gleision wedi cryfhau’r garfan ar gyfer y tymor newydd trwy arwyddo’r cefnwr amryddawn Geraint Walsh.
Gall Walsh chwaraeyn safle’r canolwr hefyd ac mae’n ymuno â’r rhanbarth ar ôl cael tymor da iawn gyda chlwb Pontypridd.
Cafodd y chwaraewr 26 oed ei enwi yn chwaraewr y flwyddyn yng Nghynghrair y Principality a hefyd ef gafodd y wobr am gais y tymor am dirio yn erbyn Llanymddyfri yn ystod mis Mawrth.
Yn ystod tymor 2011 treuliodd gyfnod gyda’r Western Pioneers yn nhalaith Auckland. Mae wedi cynrychioli clwb Llantwit Fardre, lle cafodd ei fagu.
‘‘Yr wyf yn hynod o falch i gael y cyfle i chwarae’r gêm yn broffesiynol gyda’r Gleision ac yr wyf yn benderfynol o gymryd pob cyfle a dangos fy mod yn medru chwarae ar y lefel yma. Yr wyf yn adnabod llawer o’r bechgyn a bydd hyn yn help i mi setlo,’’ meddai Walsh.