Mae cyn-gefnwr Cymru Shane Howarth wedi dweud y byddai hyfforddwr blaenwyr y Scarlets Wayne Pivac yn ddewis da fel prif hyfforddwr nawr bod Simon Easterby yn gadael.

Bydd Easterby yn hyfforddwr blaenwyr tîm Iwerddon.  Mae Shane Howarth, a arferai hyfforddi yn Auckland – y tîm a adawodd Pivac i ymuno â’r Scarlets – yn dweud bod gan Pivac y profiad i arwain y Rhanbarth.  Yn ôl Howarth, sy’n hyfforddi cefnwyr Caerwrangon ar hyn o bryd, mae’r ffaith bod Auckland wedi ennill y Bencampwriaeth dair gwaith o’r bron yn brawf o allu Pivac.

‘‘Mae ganddo brofiad rhyngwladol gyda Fiji ac mae wedi bod yn brif hyfforddwr, felly mae’n gwybod beth yw gofynion y swydd.  Mae’n deall ei rygbi ac mae’n talu sylw i’r manylion,’’ meddai Howarth.

Mae cyn-chwaraewr y Scarlets, Cymru a’r Llewod Stephen Jones wedi dweud y bydd Easterby yn golled fawr.

‘‘Mae wedi gweithio’n galed dros y rhanbarth ac yr oedd yn boblogaidd gyda’r chwaraewyr,’’ meddai Stephen Jones.