Mae cyn-Weinidog Amddiffyn Llywodraeth Prydain wedi datgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch tros annibyniaeth i’r Alban.

Dywed Peter Kilfoyle, oedd yn Weinidog Amddiffyn o dan Tony Blair, fod “bwlch anferth” bellach rhwng De-ddwyrain Lloegr a gweddill y DU.

Yn ôl Kilfoyle, mae neges y rhai sydd o blaid annibyniaeth “yn fwy deniadol o lawer na negatifrwydd a brawychu’r rhai sy’n lobïo am bleidlais Na”.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfarfod â Phrif Weinidog Yr Alban, Alex Salmond yn Lerpwl, lle bu Salmond yn annerch cynulleidfa fel rhan o’r Ŵyl Fusnes Ryngwladol.

Mae Alex Salmond wedi croesawu sylwadau Kilfoyle.

Dywedodd: “Mae’n dangos bod pleidlais Ie yn unol â gwerthoedd traddodiadol Llafur.”

Ychwanegodd Peter Kilfoyle fod y ddadl tros annibyniaeth yn gyfle i “atgoffa rhanbarthau Lloegr fod gennym ni, hefyd, broblem gyda Llundain sy’n gorchfygu”.

“Wrth gwrs, mae mater y bleidlais yn Yr Alban yn fater i’r Albanwyr i’w benderfynu yn y lle cyntaf.

“Ond mae’n fy nharo i fod neges uchelgeisiol yr ymgyrch Ie yn llawer mwy deniadol na negatifrwydd a brawychu’r rhai sy’n lobïo am bleidlais Na.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr Albanwyr yn cofio geiriau doeth Franklin D. Roosevelt – ‘yr unig beth sydd gennym i’w ofni yw ofn ei hun”.

Bydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar Fedi 18.

Mae disgwyl i Alex Salmond a Gordon Brown gyflwyno dwy ochr y ddadl pan fyddan nhw’n ymddangos yng Ngŵyl Lyfrau Caeredin fis nesaf.

Bydd Salmond yn cynnal sgwrs â Syr Tom Devine ar y daith tuag at annibyniaeth a’r goblygiadau pe bai’r Alban yn dod yn annibynnol.

Bydd Brown, mewn cyfweliad â’r awdur Alistair Moffat, yn trafod ei weledigaeth mewn llyfr newydd am ddyfodol lle mae’r Alban yn aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.