Leanne Wood
 Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi cyhoeddi y bydd y blaid yn tynnu’n ôl o drafodaethau ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn sgil y penderfyniad i wario £1biliwn ar ddatblygu rhan o ffordd yr M4 ger Casnewydd.

Dywedodd Leanne Wood fod y penderfyniad yn “anystyriol” ac yn un sydd am gael effaith negyddol ar Lywodraeth Cymru am flynyddoedd i ddod.

Ychwanegodd bod penderfyniad y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart i wario £1 biliwn ar y ffordd newydd o amgylch Casnewydd – a hynny heb gwblhau ymgynghoriad yn gyntaf – yn gadael pobol Cymru i lawr.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu mewn ffordd hollol ddifater tuag at y sefydliad democrataidd pan wnaethpwyd y penderfyniad hwn, heb achos busnes nac archwiliad llawn.”

Cafodd cyhoeddiad Edwina Hart hefyd ei feirniadau’n llym gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Opsiynau

Yn ôl Leanne Wood fe fyddai wedi bod yn bosib gwario llai ar y prosiect, a fyddai’n gwneud y gorau o arian y trethdalwyr:

“Mewn trafodaethau cyllideb, fe fuasai Plaid Cymru wedi gweithio’n galed i sicrhau y gwerth gorau am arian i’r trethdalwr Cymreig. Ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi gwario biliwn o bunnau ar y prosiect gwastraffus yma pan mae dewis mwy effeithlon a rhatach ar gael.

“Mae hwn yn benderfyniad a wnaiff glymu dwylo Llywodraethau Cymru am y blynyddoedd nesaf i ddod.

“Am y rheswm hynny, ni all Plaid Cymru barhau i drafod y gyllideb gyda llywodraeth sy’n gwneud penderfyniadau gwario mor anystyriol ag sy’n osgoi unrhyw graffu, ac felly rydym yn tynnu’n ôl o’r trafodaethau.”