Llys y Goron Abertawe
Mae cyhuddiad o lofruddiaeth yn erbyn dynes ifanc wedi cael ei newid i gyhuddiad o ddynladdiad yn ystod ail wythnos yr achos yn Llys y Goron Abertawe.
Plediodd Katie Jenkins yn euog i ddynladdiad Richard Craddock yn y stryd yn Nhregŵyr ar y sail nad oedd hi wedi bwriadu ei ladd nac achosi niwed corfforol difrifol iddo.
Derbyniodd y rheithgor orchymyn gan y barnwr i dderbyn ple i’r cyhuddiad llai difrifol.
Clywodd y llys fod Craddock, 51, wedi cael ei drywanu gan Jenkins, 24, wrth iddyn nhw deithio yn ei gar ar Ffordd Sterry yn Nhregŵyr.
Derbyniodd anafiadau angheuol o ganlyniad i gael ei drywanu gyda chyllell â llafn 10cm roedd hi wedi ei rhoi yn ei bra.
Dywedodd ei bod hi’n ceisio amddiffyn ei hun rhag ofn y byddai Craddock yn ymosod arni.
Cyn y diwrnod hwnnw, doedd y ddau erioed wedi cwrdd o’r blaen, ac roedden nhw wedi mynd i dŷ ffrind oedd yn gyffredin i’r ddau.
Clywodd y llys fod Jenkins wedi dweud wrth ei ffrind bod Craddock wedi ei chyffwrdd mewn ffordd amheus a’i fod wedi gwenwyno’i diod.
Roedden nhw wedi teithio i dŷ ffrind arall ar ôl gadael tŷ Craddock, ond wedi’i ffonio i fynd i brynu sigarets.
Aeth y ddau i’r siop yng nghar Craddock gyda’r gyllell yn dal ym mra Jenkins.
Dangosodd lluniau camera cylch-cyfyng fod car Craddock wedi dod i stop yn sydyn wedi iddo golli rheolaeth ar y cerbyd.
Bu farw Craddock yn yr ysbyty’n ddiweddarach wedi i drigolion lleol geisio rhoi cymorth iddo.
Bydd Jenkins yn cael ei dedfrydu’r wythnos nesaf.