Stephen Crabb
Mae David Cameron wedi cyhoeddi’r prif newidiadau i’w gabinet yn ystod y bore.
Yn ôl y disgwyl mae nifer o ferched wedi cael eu penodi i swyddi allweddol a bu rhai newidiadau annisgwyl hefyd gan gynnwys diswyddo Michael Gove, Owen Paterson, a Dominic Grieve.
Dyma grynodeb o’r newidiadau:
Ysgrifennydd Cymru
Ar ôl llai na dwy flynedd yn y swydd, fe fydd David Jones yn dychwelyd i’r meinciau cefn.
Aelod Seneddol Preseli a Phenfro, Stephen Crabb fydd yn ei olynu. Alun Cairns, AS Bro Morgannwg fydd ei ddirprwy.
Wrth drydar ei ymateb ar ôl cael ei benodi heddiw dywedodd Stephen Crabb ei fod yn “anrhydedd” cael ymuno a’r cabinet a’i fod yn edrych ymlaen at “adeiladu ar y gwaith arbennig a wnaeth David Jones” a rhoi “llais cryf i Gymru yn San Steffan. “
Mae’r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies:
“Mae Stephen Crabb wedi bod yn Weinidog effeithiol a gweithgar, a bydd yn llais cryf dros Gymru o amgylch y bwrdd cabinet.”
Mae llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan, Owen Smith, wedi llongyfarch Stephen Crabb ar ei benodiad newydd ond yn amau a fydd yr Ysgrifennydd newydd yn cefnogi pwysigrwydd datganoli.
“Fel ei ragflaenwyr, mae Mr Crabb yn rhannu’r un amheuaeth am bwysigrwydd datganoli, gan ei alw yn y gorffennol yn ffurf o ‘fandaliaeth gyfansoddiadol’. Bydd yn wynebu cwestiynau dilys am ei ymrwymiad i ddatganoli a’i awydd i’w symud ymlaen.
“Prawf pwysig iddo yn yr ystyr yma yw a fydd yn cefnogi Comisiwn Silk a barn Llafur, sef y dylai Cymru gael yr un pwerau a’r Alban.”
Ysgrifennydd Tramor
Yn dilyn y cyhoeddiad annisgwyl yn hwyr neithiwr fod William Hague wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Tramor, cyhoeddwyd mai Philip Hammond fydd yn cymryd ei le.
Mae William Hague wedi ei benodi’n Arweinydd Ty’r Cyffredin, a bydd yn rhoi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol y flwyddyn nesaf.
Ysgrifennydd Addysg
Sioc arall i’r mwyafrif oedd bod Michael Gove wedi colli ei swydd fel yr Ysgrifennydd Addysg.
Nicky Morgan fydd yn ei olynu a bydd hi hefyd yn parhau yn ei swydd fel y Gweinidog dros Ferched a Chydraddoldeb.
Cafodd Michael Gove ei benodi’n Brif Chwip, a’i rôl newydd fydd lledaenu neges y Llywodraeth mewn cyfweliadau teledu wrth i’r Prif Weinidog baratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Ysgrifennydd Amgylchedd
Liz Truss yw’r Ysgrifennydd Amgylchedd newydd a’r aelod ieuengaf o’r cabinet yn 38 oed.
Bydd hi’n cymryd lle Owen Paterson a gafodd ei feirniadu am fethiant ei gynllun difa moch daear a’r ffordd yr oedd wedi delio gyda’r llifogydd dros y gaeaf.
Adran Waith a Phensiynau
Mae Mark Harper, a ymddiswyddodd fel gweinidog mewnfudo yn gynharach eleni ar ôl iddo gyfaddef cyflogi gweithiwr anghyfreithlon fel glanhawr, wedi cael ei benodi’n Weinidog yn yr Adran Waith a Phensiynau.
Rhagor o newidiadau:
- Cyhoeddwyd mai Michael Fallon fydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn newydd
- Bydd Esther McVey yn parhau yn weinidog cyflogaeth ac anableddau ond bydd hi nawr yn mynychu’r Cabinet hefyd, meddai David Cameron.
- Bydd Syr Bob Kerslake yn camu o’i swydd fel pennaeth y Gwasanaeth Sifil yn yr hydref ac yn ymddeol fel ysgrifennydd parhaol yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
- Matt Hancock yw’r Gweinidog Busnes newydd.