Cyngor Abertawe
Bydd Cyngor Abertawe’n trafod gwahardd pigau metel i atal pobl ddigartref rhag cysgu yn y ddinas mewn cyfarfod heno.
Daw’r cynnig ar ôl i fanc yn Abertawe osod y pigau metel ger eu mynedfa i atal pobl rhag cysgu yno. Fe wnaeth y banc dynnu’r pigau wedyn, ar ôl derbyn cwynion.
Mae’r cynnig, sydd o flaen y cyngor llawn heno, ac sydd wedi ei lofnodi gan 11 o gynghorwyr, yn galw ar y cyngor i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd y defnydd o bigau metel mewn “mannau cyhoeddus ac agored”.
Mae’r cynnig hefyd yn gofyn i swyddogion y cyngor i weithredu er mwyn “sicrhau na fydd datblygiadau newydd yn cynnwys dyfeisiau canoloesol o’r fath.”
Meddai’r cynnig: “Mae Cyngor Abertawe yn cydnabod bod cysgu ar y stryd yn broblem sydd angen adnoddau sylweddol i’w datrys.
“Fodd bynnag, byddai’r Cyngor yn condemnio’r defnydd o fesurau yn erbyn pobl ddigartref (fel pigau metel neu stydiau) i wahardd aelodau o’r gymuned ddigartref rhag cysgu yno.”
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio’u hadnoddau ar geisio datrys y broblem yn yr hirdymor a’r achosion sy’n arwain at ddigartrefedd yng Nghymru.