Synod Cyffredinol Eglwys Loegr
Fe fydd Eglwys Loegr yn cael ail gyfle heddiw i gefnogi ordeinio merched yn esgobion.
Bydd cyfle i aelodau o Synod Cyffredinol yr Eglwys benderfynu a ydyn nhw am gymeradwyo cynlluniau i ordeinio merched yn esgobion.
Os yw’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo fe all y ddynes gyntaf gael ei hordeinio’n esgob erbyn y Nadolig.