Llun o wefan Hotels.com
Mae cael bwyd Prydeinig yn bwysicach i ymwelwyr o wledydd Prydain na dysgu’r iaith leol, yn ôl arolwg newydd.
Dim ond nawfed ar restr blaenoriaethau pobol yw dysgu iaith, meddai’r arolwg gan y wefan wyliau hotels.com
Roedd hynny fymryn ar y blaen i allu mynd ag anifail anwes gyda nhw.
Lle’r gwyliau tramor yw’r peth pwysica’, yn ôl y wefan, gyda chyd-deithwyr yn ail ac ansawdd a phris y llety’n drydydd.
‘Siomedig’
Yn ôl Hotels.com, roedd hi’n beth da fod ymwelwyr yn rhoi mwy o bwyslais ar bethau heblaw pris ond yn siomedig fod cyn lleied o ddiddordeb mewn iaith.
“Er ei bod yn siom gweld Brits yn dangos cyn lleied o awydd i ddysgu’r iaith leol, all hi ddim ond bod yn beth da i economïau lleol ein bod, yn ôl pob golwg, yn pyredru llai am bris,” meddai llefarydd.