Mae Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-Bostfeistri wedi galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu ar frys i atal rhagor o golledion ariannol.
Yn ôl cofnodion ariannol blynyddol Swyddfa’r Post gafodd eu cyhoeddi heddiw, gwnaeth refeniw’r gwasanaeth ostwng £55 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos cwymp o £16 miliwn yn y refeniw yn deillio o wasanaethau’r Post Brenhinol.
Mae’r refeniw o wasanaethau wyneb-yn-wyneb wedi gostwng £18 miliwn ac mae gwasanaethau o’r fath bellach mewn perygl o gael eu diddymu.
Mae’r cofnodion hefyd yn dangos:
· Gostyngiad o £45 miliwn yn y trosiant crynswth (4.4%) i £979 miliwn
· Gostyngiad o £55 miliwn yn y refeniw crynswth (4.5%) i £1179 miliwn, gan gynnwys gostyngiad o £10 miliwn yn Nhaliadau Ariannu Rhwydwaith y llywodraeth
· Gostyngiad o £19 miliwn yn yr incwm o’r post a manwerthu i £390 miliwn
· Gostyngiad o £2 miliwn yn yr incwm o wasanaethau ariannol (0.7%) i £279 miliwn
· Gostyngiad o £18 miliwn yn yr incwm o wasanaethau’r llywodraeth (11%) i £146 miliwn
· Gostyngiad o £5 miliwn yn yr incwm o wasanaethau telegyfathrebu (3.9%) i £124 miliwn
Dywedodd llefarydd ar ran y Ffederasiwn fod “Swyddfa’r Post wedi cael ei adael i lawr yn wael gan y llywodraeth a’i methiant i gyflwyno gwasanaethau llywodraeth newydd y gwnaethon nhw eu haddo, a oedd i fod yn rhan fawr a chynyddol o refeniw’r busnes.”
Ychwanegodd fod gweithwyr post yn ennill llai nag erioed o’r blaen yn sgil gwasanaethau’r llywodraeth.