Boris Johnson
Gallai Boris Johnson ddychwelyd i San Steffan yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiadau.
Mae Syr John Randall, Aelod Seneddol Uxbridge a De Ruislip, wedi penderfynu peidio ail-sefyll ac fe allai Johnson gael sêl bendith y Ceidwadwyr i fod yn ymgeisydd yn yr etholaeth.
Mae’n debyg na fyddai’n tarfu ar ei rôl fel Maer Llundain, sy’n dod i ben ymhen dwy flynedd, gan y byddai’n cael gwneud y ddwy swydd ochr yn ochr pe bai’n cael ei ethol.
Hyd yn hyn, mae Johnson wedi gwrthod gwneud sylw am ei ddyfodol wedi i’w dymor fel Maer Llundain ddod i ben, ond mae e wedi’i gysylltu â nifer o seddi diogel yn ne ddwyrain Lloegr.
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron eisoes wedi dweud y byddai’n ei groesawu’n ôl i San Steffan.
Bu Syr John Randall yn Brif Chwip y Ceidwadwyr tan fis Hydref diwethaf ac fe ddywedodd Cameron ei fod yn “gydweithiwr ffyddlon, cynnil, amyneddgar” y mae modd ymddiried ynddo.
Chwaraeodd ran flaenllaw yn y ffrae tros Plebgate trwy drosglwyddo e-bost gan un o’i etholwyr oedd yn honni eu bod nhw wedi clywed Andrew Mitchell, oedd yn Brif Chwip ar y pryd, yn rhegi at yr heddlu yn Stryd Downing ac yn galw un o’r plismyn yn ‘pleb’.
Ond fe ddaeth yr e-bost, mewn gwirionedd, gan blismon a arweiniodd at ymchwiliad gan Scotland Yard.