Yr Arglwydd Brittan
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y bydd “ymchwiliad trwyadl” yn cael ei gynnal i sut yr oedd sefydliadau wedi delio gyda honiadau o gam-drin plant.
Ychwanegodd ei fod yn “hanfodol” i fynd at wraidd yr honiadau a dysgu gwersi.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gyhoeddi manylion ymchwiliad eang heddiw ynglŷn â honiadau hanesyddol o gam-drin plant mewn cysylltiad â San Steffan yn yr 80au.
Ond nid oes disgwyl iddi lansio ymchwiliad cyhoeddus llawn er gwaetha’r pwysau arni i wneud hynny.
Yn y cyfamser mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref, yr Arglwydd Birttan wedi croesawu’r cyhoeddiad am adolygiad annibynnol.
Ond, mewn datganiad, mae’n mynnu “nad oes sail” i honiadau ei fod wedi methu a delio’n ddigonol gyda gwybodaeth a gafodd ynglŷn â throseddau rhyw honedig gan yr AS Geoffrey Dickens yn yr 80au.
Mae wedi dod i’r amlwg bod dros 100 o ddogfennau yn ymwneud a honiadau o gam-drin plant wedi mynd ar goll. Maen nhw’n cynnwys ffeiliau a gafodd eu trosglwyddo i’r cyn Ysgrifennydd Cartref, Leon Brittan, gan Geoffrey Dickens, a oedd yn honni bod rhai unigolion blaenllaw yn gysylltiedig â gweithgareddau pedoffiliaid.
Mae’r Arglwydd Brittan hefyd wedi cadarnhau ei fod wedi cael ei holi gan yr heddlu mewn cysylltiad â “honiad difrifol” ond nad oedd sail i’r honiadau yn ei erbyn. Mae’n debyg nad yw’r honiad yn gysylltiedig â’r honiadau o gam-drin plant.
Daeth ei ddatganiad yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cael ei holi gan yr heddlu ym mis Mehefin eleni mewn cysylltiad â honiad hanesyddol o dreisio dynes ym 1967. Dywed yr Heddlu Metropolitan eu bod yn ymchwilio i’r honiad.