Cig oen
Y llynedd, roedd gwerthiant cig oen a chig eidion Cymru mewn gwledydd tramor yn werth dros £224 miliwn i economi Cymru, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Roedd y cig oen a gafodd ei allforio yn 2013 yn werth £154.7 miliwn, £7 miliwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.  Ac roedd allforion cig eidion Cymru yn werth £69.4 miliwn, sef yr un fath ag yn 2012.

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos fod defnyddwyr ar draws y byd yn arbennig o hoff o gig oen a chig eidion Cymru,” meddai Laura Pickup, rheolwraig datblygu’r farchnad gyda Hybu Cig Cymru.

“Nid yn unig rydym yn dal i wneud yn dda yn ein marchnadoedd tramor traddodiadol yn Ewrop, ond fe welsom dwf rhagorol hefyd mewn gwledydd eraill, yn enwedig yn Sgandinafia.”

Dechreuwyd allforio i Ddenmarc, Norwy a Sweden dair blynedd yn ôl. Oddi ar hynny mae cyfanswm gwerth cig oen Cymru sy’n cael ei allforio i’r gwledydd hynny wedi cynyddu o ychydig dros £1.5 miliwn y flwyddyn yn 2011 i fwy na £4.6 miliwn yn 2013.

Ffrainc yw’r cwsmer tramor gorau o gig Cymru hyd. Maen nhw’n prynu gwerth £71 miliwn o gig oen Cymru’r flwyddyn. Mae’r Almaen hefyd yn prynu gwerth bron i £13  miliwn y flwyddyn.

Yr Iseldiroedd sy’n mewnforio’r mwya o gig eidion Cymru yn Ewrop, gan fwyta gwerth £14.3 miliwn y llynedd.

Meddai Laura Pickup: “Mae hyn yn newyddion da i ffermwyr Cymru a’r cwmnïau sy’n allforio.”

“Caiff yr arian sy’n cael ei ennill dramor ei ail-fuddsoddi yn economi Cymru, gan helpu i ddiogelu busnesau a swyddi yma yng Nghymru.”