Mae 17 o lowyr wedi marw ar ôl bod yn gaeth dan ddaear yn dilyn ffrwydrad nwy yng ngogledd-orllewin Tsieina.

Digwyddodd y ffrwydrad ddydd Sadwrn mewn glofa  sydd 70 milltir o Urumqi, prifddinas rhanbarth Xinjiang.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod achos y ffrwydrad.

Mae gan Tsiena rai o’r mwyngloddiau mwyaf peryglus yn y byd, er bod diogelwch wedi gwella wrth i reoleiddwyr orfodi cyflwyno rheolau diogelwch.

Cafodd tri o bobl eraill oedd yn gweithio yn y pwll eu hachub.