Roedd Network Rail (NR) wedi “methu â chyflawni” targedau prydlondeb y llynedd, gyda miloedd o drenau wedi rhedeg yn hwyr, meddai  rheoleiddwyr y rheilffyrdd heddiw.

Er eu bod nhw wedi ymrwymo i sicrhau lefelau prydlondeb o 92% ar wasanaethau i deithwyr pellter hir yn 2013/14, meddai’r Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR) bod y ffigwr yn 86.9%.

O ganlyniad, o dan orchymyn a wnaed gan yr ORR yn 2012, mae Network Rail yn gorfod dychwelyd £53.1 miliwn i’r Trysorlys fel dirwy.

Fodd bynnag, roedd yr ORR yn fodlon gyda rhai agweddau o berfformiad Network Rail dros gyfnod 2009-14.

Dywedodd bod y cwmni wedi darparu rhaglen fawr i wella rheilffyrdd a bod cwsmeriaid, i raddau helaeth, wedi gweld manteision gwirioneddol. O’r 118 o brosiectau, cafodd 98 eu cyflwyno’n gynnar neu ar amser.

Mae’r cwmni hefyd wedi helpu i wella diogelwch ar groesfannau, wrth i fwy na 800 o groesfannau ar draws Prydain gael eu huwchraddio neu eu cau yn gyfan gwbl.

Mae’r nifer sy’n teithio ar y rheilffyrdd wedi codi hefyd gyda 1.5 biliwn yn defnyddio trenau yn 2013-14 o’i gymharu â 1.2 biliwn yn 2008-09.

Dywedodd y ORR hefyd bod Network Rail a gweithredwyr trenau wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd i gadw gwasanaethau rheilffordd i redeg yn ddiogel drwy gydol y tywydd garw yn ystod 2013-2014.